Mae Tasglu Rheilffyrdd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy, sy’n arwain ymgyrch Trac Twf 360, wedi croesawu adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i’r ymchwiliad i Fasnachfraint Cymru a’r Gororau.
Mae adroddiad Masnachfraint Cymru a’r Gororau, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd gogledd Cymru a rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy cyn cyflwyno’r cynnig ar gyfer Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau nid-er-elw newydd a fydd yn cael ei ddyfarnu ddechrau mis Hydref 2018.
Cafodd y Tasglu Rheilffyrdd, sy’n cynnwys arweinwyr gwleidyddol a sector cyhoeddus a chynrychiolwyr busnes, ei greu i amlygu a hyrwyddo gwelliannau i reilffyrdd ar draws gogledd Cymru, Caer a Wirral. Mae Prosbectws Rheilffyrdd Trac Twf 360 yn nodi gweledigaeth ar gyfer £1 biliwn o fuddsoddiad yn rheilffyrdd gogledd Cymru a rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy; buddsoddiad a fydd yn creu 70,000 o swyddi newydd ac yn cynyddu gwerth ychwanegol gros yr ardal i £50 biliwn.
Tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf am weithgaredd ymgyrch Growth Track 360.
Cyflwynodd y Tasglu dystiolaeth i bwyllgor ymchwiliad Masnachfraint Cymru a’r Gororau yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd gan dynnu sylw at yr angen am wasanaethau rheilffyrdd gwell a modern. Dywedodd y ddirprwyaeth nad oedd y fasnachfraint gyfredol yn caniatáu ar gyfer unrhyw dwf mewn teithwyr na darpariaeth ar gyfer trenau ychwanegol, sy’n cyfyngu ar y gallu i ddatblygu a moderneiddio gwasanaethau.
Amlygodd y grŵp hefyd bwysigrwydd cynnal y prif lif teithwyr trawsffiniol yn ogystal â’r rheiny o fewn Cymru y mae masnachfraint Cymru a’r Gororau yn eu gwasanaethu, gan gynnwys y rheiny â Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion.
Mae’r adroddiad seneddol a gyhoeddwyd yn sgil hyn oll yn amlinellu nifer o argymhellion allweddol ar gyfer gwella’r model masnachfraint newydd, gan gynnwys caffael cerbydau newydd. Mae’r stoc bresennol ar gyfartaledd yn 27 oed, ac mae’r adroddiad yn gweld oedran y trenau yn rhwystr allweddol i gyflawni boddhad teithwyr.
Mae hefyd yn nodi’r angen am nifer o welliannau i’r seilwaith, gan gynnwys trydaneiddio’r rhwydwaith, gwella signalau a chyflymder trenau, uwchraddio cyfleusterau gorsafoedd a chynyddu capasiti gorsafoedd sydd ar hyn o bryd yn gweithredu fel tagfeydd. Amlygir hefyd y flaenoriaeth o drydaneiddio rheilffyrdd gogledd Cymru.
Dywedodd Cadeirydd Tasglu Rheilffyrdd Trawsffiniol Gogledd Cymru a Rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy, y Cynghorydd Samantha Dixon: “Rydym ni’n croesawu’r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad, ac yn falch iawn o weld bod nifer o fesurau allweddol wedi eu cynnwys a fydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau gwell, cyflymach ac amlach ar draws gogledd Cymru, Sir Gaer a Wirral.
“Mae’r tasglu wedi gweithio’n ddiflino i amlinellu pwysigrwydd y gwelliannau allweddol a’r newidiadau i’r model masnachfraint presennol. Mae’r rhain yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau gwell, ac mae’n galonogol gweld bod y mesurau hanfodol hyn wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hynod drylwyr a systematig.”
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi pwysigrwydd cadw llwybrau presennol Masnachfraint Cymru a’r Gororau yr un fath, er mwyn sicrhau bod y fasnachfraint yn diwallu anghenion teithwyr a’u bod nhw’n all elwa ar rwydwaith unedig a chydlynol.
Dan y fasnachfraint bresennol mae’r unig gosb ariannol yn y contract yn ymwneud â phrydlondeb y trenau. O ganlyniad, nid oes unrhyw gymhelliant i gynnal na gwella boddhad teithwyr mewn ffyrdd eraill. Dan y fasnachfraint newydd, mae’r adroddiad wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal amrywiaeth o gymhellion a rhwymedigaethau cytundebol i sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn lefel dda o wasanaeth ym mhob ffordd drwy gydol y tymor y fasnachfraint.
Dywedodd Iwan Prys Jones, Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: “Mae pobl a busnesau yng ngogledd Cymru, Sir Gaer a Wirral yn haeddu gwasanaethau rheilffordd gwell – heb hyn ni fydd ein heconomi yn cyrraedd ei lawn botensial a bydd yn cael ei rhwystro. Rydym ni’n falch iawn o weld nifer o argymhellion defnyddiol a fydd yn arwain at foderneiddio, uwchraddio ac ehangu’r rhwydweithiau rheilffordd”.
Dywedodd Ashley Rogers, Cadeirydd Cyngor Busnes Gogledd Cymru: “Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-oes i sicrhau bod y strwythur yn ei le i ddiweddaru’r cynnig rheilffordd, ac rydym ni’n croesawu’r mesurau sydd wedi eu hargymell yn yr adroddiad. Mae darparu model masnachfraint gwell sy’n dal cwmnïau i gyfrif ac yn gosod safonau clir ar gyfer gwasanaethau yn hanfodol – bydd yn helpu i sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn i ddiogelu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol ac yn sbarduno gwelliannau ehangach a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau heddiw ac i’r dyfodol.”
Mae Abellio, Arriva, KeolisAmey ac MTR wedi eu nodi fel y cynigwyr dewisol ar gyfer y fasnachfraint newydd.
Mae ymgyrch Trac Twf 360 yn cael ei harwain gan Dasglu Rheilffordd Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy ac mae ganddi gefnogaeth wyth awdurdod lleol, Partneriaeth Fenter Leol Swydd Gaer a Warrington, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru.
Tanysgrifiwch i’n e-gylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf am weithgaredd ymgyrch Growth Track 360.