Mae ymgyrch Growth Track 360 wedi mynd o nerth i nerth ers ei lansiad yr haf diwethaf.
Mae hyn yn cynnwys diogelu cefnogaeth mwy na 400 o gwmnïau sy’n cynrychioli dros 300,000 o bobl o bob rhan o ranbarth Gogledd Cymru a’r Ferswy a’r Ddyfrdwy.
Felly pam fo’r cwmnïau hyn yn cefnogi’r ymgyrch reilffyrdd?
Wel, mae gwahanol fusnesau yn nodi gwahanol resymau.
amser, cwsmeriaid, swyddi a thraffig
Mae dros 75% y cant o gwmnïau mwy o faint wedi nodi’r arbedion amser y byddai Growth Track 360 yn eu cynnig fel eu prif gymhelliant dros gefnogi’r ymgyrch. Mae 64% o gwmnïau llai yn nodi gwell mynediad i gwsmeriaid.
Mae tua 54% y cant o gwmnïau llai hefyd o’r farn y byddai gwell gwasanaethau trenau yn gwella recriwtio ac yn eu helpu i ehangu a chreu swyddi.
Dywedodd busnesau hefyd y byddai’r ymgyrch yn helpu i leihau traffig ar yr A55, creu gwell cysylltiadau â gweddill y DU, ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd drwy leihau’r defnydd o drenau disel.
cyfleoedd
Wrth ei galon, mae Growth Track 360 yn ymwneud â helpu cynnig ffyniant economaidd – sicrhau bod HS2 yn dod â chymaint o fudd â phosibl i fusnesau a phobl yng Ngogledd Cymru, Sir Gaer a Chilgwri.
Felly mae rhyddfraint nesaf Cymru a’r Gororau – a fydd yn siapio’r ffordd y caiff rhai o’n prif wasanaethau trenau eu darparu – yn cynnig cyfle na ddylid ei fethu.
Roeddem yn falch i gyfrannu at yr ymchwiliad diweddar gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, ac mae’r adroddiad yn sgil hynny yn cynnwys nifer o argymhellion positif.
Er enghraifft, mae’n amlygu pwysigrwydd cymhellion ac ymrwymiadau contract i weithredwyr trenau, trenau a cherbydau modern, trydaneiddio ac uwchraddio cyfleusterau gorsafoedd.
Mae sawl her o’n blaen, ond mae rhai cyfleoedd gwych i barhau i wthio am newid i wasanaethau trenau ar draws Gogledd Cymru, Sir Gaer a Chilgwri.
Mae cludiant yn ganolog i’n heconomi ranbarthol, felly os nad ydych wedi cynnwys eich llais yn yr ymgyrch eto, cofrestrwch yma.
Or subscribe to our newsletter to keep up-to-date with Growth Track 360.