ffeithiau allweddol
Bydd trawsffurfio ein gwasanaethau rheilffordd yn trawsffurfio ein dyfodol ledled Gogledd Cymru a rhanbarth Mersi-Dyfrdwy.
Dyma rhywfaint o ffeithiau allweddol am yr hyn yr hoffwn ei gyflawni a sut…
Nid yw’r rhwydwaith rheilffordd presennol sy’n cysylltu Gogledd Cymru, Swydd Gaer a’r Wirral yn ateb y gofynion.
Mae teithiau’n rhy hir, gyda thaith arferol o Wrecsam i Faes Awyr Manceinion yn cymryd 140 munud ar y trên o’i gymharu â 50 munud yn y car.
Mae hyn yn gorfodi gormod o geir ar y ffordd ac yn creu tagfeydd.
Rhagwelir y bydd tagfeydd ar y ffyrdd yn cynyddu 33% yn yr 20+ mlynedd nesaf, gan rwystro twf.
Mae 1 o bob 5 ymgeisydd eisoes yn gwrthod cyfweliadau neu gynigion am swyddi o ganlyniad i anhawster teithio yno.
Byddai buddsoddi mewn rhwydwaith integredig yn:
Lleihau amser teithio a gwella amlder gwasanaethau.
Gwneud teithiau cyhoeddus drws i ddrws 1 awr yn bosibl.
Cysylltu pobl â swyddi a busnesau â chwsmeriaid yn well.
Gwella cysylltedd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cefnogi busnes, diwydiant a thwf.
darluniau gwybodaeth growth track 360
1 file(s) 961.32 KB